Amdanom ni
Nod Y Gymdeithas Efengylaidd yn yr Eglwys yng Nghymru yw hybu cysylltiadau rhwng Anglicanwyr efengylaidd yng Nghymru. Rydym yn darparu arweinyddiaeth, anogaeth a chefnogaeth ac yn tystiolaethu i’r egwyddorion Beiblaidd yn ein Sail Ffydd, sydd mewn cyffredin gydag aelodau eraill Cymdeithas Efengylaidd y Cymundeb Anglicanaidd. Y mae’n gefnogaeth gref a gwerthfawr i lawer yn yr Eglwys yng Nghymru.
Nodau
Cymrodoriaeth
I greu naws perthyn real, i wneud y gymdeithas yn rhywbeth sy’n werth ymuno ag ef.
Cynadleddau
I ddarparu cyfleoedd ar gyfer cymdeithasu a dysgu, mewn ffordd sy’n diwallu angen yr aelodau.
Cyfathrebu
I sicrhau bod pob aelod yn gwybod beth sy’n digwydd yn enw’r gymdeithas, ac i roi llais iddynt.
Plant a phobl ifanc
I gynnal mewnbwn ystyrlon i waith ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Yr Eglwys yng Nghymru
I sicrhau bod llais grasol ond yn Feiblaidd yn cael ei glywed yn yr Eglwys yng Nghymru.
Rydym yn ceisio annog ein haelodau i gymryd rhan ar bob lefel o fywyd eglwysig, hybu galwedigaethau i’r weinidogaeth ymysg efengyleiddwyr yn yr Eglwys yng Nghymru, a chadarnhau ein bod ni’n gwerthfawrogi ein cysylltiadau ag Anglicanwyr ar draws y byd.
Hanes
Sefydlwyd Y Gymdeithas Efengylaidd ym Mawrth 1967 yn The Hookses, tŷ John Stott yn Dale, Sir Benfro. Datblygodd o grŵp a oedd yn arfer cwrdd yn anffurfiol fel aelodau Cymreig o Gymdeithas Efengylaidd y Cymundeb Anglicanaidd.