Ein gweithgareddau

Y Gymdeithas Efengylaidd yw gweithgareddau ei aelodau. Dros y blynyddoedd rydym wedi cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau. Ein prif nod o’r dechreuad yw darparu cyfleoedd i gwrdd a dysgu gyda’n gilydd.


Cynadleddau

Mae’r gymdeithas yn cynnal cynhadledd un-dydd yn yr haf (sy’n cynnwys y cyfarfod cyffredinol blynyddol), gweithgareddau lleol trwy’r flwyddyn a chynhadledd breswyl i glerigwyr ac eraill mewn gweinidogaeth awdurdodedig. Mae’r cynadleddau yn darparu cyfleoedd i adeiladu perthnasau rhwng aelodau sydd wedi’u gwasgaru ar led trwy Gymru. Rydym yn anelu i fod yn ffynhonnell o wir gefnogaeth, yn enwedig i’r rhai sy’n ynysig.

Cefnogi

Mae’r gymdeithas yn cynnig grantiau llyfrau i efengyleiddwyr sy’n hyfforddi ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig neu leyg. Os ydych am fanteisio ar y cynnig hwn, cysylltwch â ni trwy’r dudalen gyswllt.

Y mae’r gymdeithas hefyd yn darparu grantiau dewisol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd am fynd ar wyliau Cristnogol. Am wyliau am wythnos neu mwy, y mae £50 ar gael i unigolion, a £150 i grŵp eglwysig; ceir symiau cyfrannol am ddigwyddiadau byrrach. Cysylltwch â ni trwy’r dudalen gyswllt os hoffech geisio am gymhorthdal, neu am fwy o wybodaeth.

Y mae Peter ac Anna Bement yn gweithio’n wirfoddol fel ymwelwyr y gymdeithas. Eu rôl yw cynnig cefnogaeth anffurfiol: gwrando, rhwydweithio, rhannu gwybodaeth a chynnig cyfeillach a chefnogaeth. Yn bennaf y maent yn gweithio gyda chlerigwyr, ond gall unrhyw aelod ynysig manteisio ar eu cymorth.

Materion cyfoes

Er bod Y Gymdeithas Efengylaidd yn gymdeithas yn hytrach na grŵp lobïo efengylaidd, y mae’r gymdeithas wedi bod yn fwyfwy weithredol yn cymryd rhan mewn dadleuon cyfoes, wrth iddynt gyflwyno persbectif Beiblaidd ar lefelau cenedlaethol ar faterion allweddol sy’n effeithio’r Eglwys yng Nghymru a’r Cymundeb Anglicanaidd.

Hefyd, ynghyd â’r wefan hon, y mae’r gymdeithas yn cynhyrchu cylchgrawn teirgwaith y flwyddyn, Bwletin. Y mae’r cylchgrawn yn cynnwys eitemau cyfoes, myfyrdodau diwinyddol a manylion am ddigwyddiadau gerllaw.

Adnoddau

Cynhyrchodd Canon Andrew Knight o’r gymdeithas, ganllaw astudio plwyfol, sy’n edrych ar gwestiynau fel, “Pam ydych chi’n Anglicanwr?”, “Pam defnyddio’r teitl Efengylaidd?”, a “Pam ydych chi’n dilyn eich patrwm bywyd?”. Gall y cwrs gael ei addasu i drafodaeth grŵp neu astudiaeth bersonol, neu gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfres o bregethau neu erthyglau cylchgrawn plwyfol.

Cewch lawrlwytho’r cwrs isod.