Ein Credoau

Fel aelodau o’r Eglwys yng Nghymru tu fewn yr un eglwys gatholig sanctaidd ac apostolig, rydym yn cadarnhau’r ffydd a ddatgelwyd yn unigryw trwy’r ysgrythurau sanctaidd a gosod yn y credoau catholig, gan gynnwys y Deugain Erthygl Crefydd Namyn Un. Yn sefyll yn nhraddodiad y Refformasiwn, rydym yn pwysleisio gras Duw – ei drugaredd anhaeddiannol – fel mynegwyd yn yr athrawiaethau sy’n dilyn.

Duw fel Ffynhonnell Gras

Yn gyson â dysgeidiaeth yr ysgrythurau sanctaidd a chredoau Cristionogol, rydym yn addoli un Duw mewn tri pherson – Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Duw a greodd pob peth, a ninnau yn ei ddelwedd ei hun; y mae pob bywyd, gwirionedd, sancteiddrwydd a harddwch yn dod oddi wrtho Fe. Cafodd ei Fab, Iesu Grist, yn gyfan gwbl Dduw ac yn gyfan gwbl dyn, ei genhedlu trwy’r Ysbryd Glân a eni o Fair Forwyn, ac a groeshoeliwyd, ac a fu farw ac atgyfododd, ac esgynnodd i ogoniant.

Y Beibl fel y Datguddiad o Ras

Rydym yn derbyn y llyfrau canonaidd o’r Hen Destament a’r Testament Newydd fel y datguddiad a chofnod hollol ddibynadwy o ras Duw, wedi eu rhoi trwy’r Ysbryd Glân fel gwir air ysgrifenedig Duw. Y mae Beibl wedi’i roi i ni i’n harwain i iachawdwriaeth, i fod y rheol eithaf i’r ffydd ac ymddygiad Cristionogol. Y Beibl yw’r awdurdod goruchaf trwy hynny dylai’r eglwys diwygio ei hun yn barhaus a barnu ei thraddodiadau.

Yr Iawn fel Gwaith Gras

Rydym yn credu mewn iachawdwriaeth yn Iesu Grist yn unig. Daeth Iesu Grist i achub pechaduriaid. Er ei fod yn ddibechod, goddefodd ein pechodau a’u barn ar y groes, ac felly cyflawni ein hiachawdwriaeth. Trwy atgyfodi Iesu’n gorfforol o’r meirw, diheurodd Duw Ef fel arglwydd a cheidwadwr a chyhoeddodd ei fuddugoliaeth.

Genedigaeth Newydd fel Rhodd Gras

Rydym yn cyhoeddi bod gwaith Crist yn gwneud iawn yn gallu bod yn effeithiol mewn bywydau pechaduriaid trwy’r Ysbryd Glân yn unig, a ddaw i ni enedigaeth newydd trwy edifeirwch a ffydd, heb hynny nid oes neb yn grediniwr Cristionogol.

Yr Eglwys fel Cymuned Gras

Rydym yn credu mai cymuned cyfamod Duw yw’r eglwys, sy’n cynnwys pobl o bob cenedl, ag aelodau yn credu, wedi’u cyfiawnhau trwy ffydd, ac yn etifeddu’r addewidion a roddwyd i Abraham ac a gyflawnwyd yng Nghrist. Fel cymdeithas yr Ysbryd, yn amlygu ei ffrwyth a defnyddio ei ddoniau, galwyd hi i addoli Duw, i dyfu mewn gras ac i dystiolaethu iddo fe a’i deyrnas. Un corff yw eglwys Duw, a dylai hi ymdrechu o hyd i ddarganfod a phrofi’r undod yna mewn gwirionedd a chariad sydd ganddi yng Nghrist, yn enwedig trwy ei chyffes o’r ffydd apostolig a thrwy weithredu’r sacramentau Arglwyddol.

Y Sacramentau fel Arwyddion a Selau Gras

Rydym yn credu bod sacramentau bedydd a chymun bendigaid yn cyhoeddi’r efengyl fel arwyddion effeithiol a gweledol o’n cyfiawnhad a’n sancteiddhad, ac fel dull gwir o ras Duw i’r rhai sy’n edifarhau a chredu. Bedydd yw arwydd maddeuant pechodau, rhodd yr Ysbryd, genedigaeth newydd i gyfiawnder a mynediad i gyfeillach pobl Duw. Cymun bendigaid yw arwydd presenoldeb bywiol, maethol Crist trwy ei Ysbryd i’w bobl; coffa o’i unig aberth perffaith, cyflawnedig, holl ddigonol ar gyfer pechod, o’r orchest yma gall pob un fanteisio, ond ni all neb rannu ei hunan-offrwm; a mynegiant o’n bywyd corfforaethol o wasanaeth aberthol a diolchgarwch.

Gweinidogaeth fel Stiwardiaeth Gras

Rydym yn rhannu yn gyffredin, fel pobl Duw, offeiriadaeth frenhinol â’r eglwys lawn, ac mewn cymuned y gwas sy’n dioddef. Ein bwriad yw cyhoeddi’r efengyl trwy bregethu’r gair, ynghyd â gofalu am yr anghenus, herio drygioni, hyrwyddo cyfiawnder a defnydd mwy cyfrifol o adnoddau’r byd. Mae’n alwedigaeth arbennig i esgobion ac offeiriad, ynghyd â diaconiaid, i adeiladu corff Crist mewn gwirionedd a chariad, fel bugeiliaid, athrawon a gweision Duw.

Dychwelyd Crist fel Buddugoliaeth Gras

Rydym yn edrych ymlaen yn awyddus i amlygiad terfynol o ras a gogoniant Crist pan ddaw ef drachefn i godi’r meirw, barnu’r byd, diheuro ei ddewis bobl a dod â’i deyrnas i gyflawniad tragwyddol yn y nef a daear newydd.