Aelodaeth

Mae croeso i chi ymuno â ni. Mae’r aelodaeth ar agor i unrhyw efengyleiddiwr yn yr Eglwys yng Nghymru sy’n cytuno â’n Sail Ffydd.

Nid oes tâl aelodaeth benodol, ond rydym yn gofyn am gyfraniad o £10 y flwyddyn oddi wrth bob cartref. Mae ffurflen aelodaeth, sy’n cynnwys ffurflen archeb sefydlog banc, ar gael i’w lawrlwytho o’r dolenni isod, neu oddi wrth ein hysgrifennydd aelodaeth, Parch. Will Marshall, trwy’r tudalen cyswllt. Os ydych chi’n talu treth, a wnewch chi lenwi’r adran rhodd cymorth hefyd os gwelwch chi’n dda.