Dweud stori well – Cynhadledd yr Haf a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Dweud stori well – Cynhadledd yr Haf a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Ar ôl dwy flynedd mae ein Cynhadledd Haf wyneb yn wyneb yn ôl ac rydym yn edrych ymlaen at ddod ynghyd gyda’n gilydd.

Dydd Sadwrn 10 Medi, 10yb – 3.30yp

Eglwys Sant Clement, 10 Stryd yr Eglwys, Rhaeadr, LD6 5AY

Rydym yn falch o gael yr Hybarch Will Strange yn ymuno â ni i siarad ar y testun ‘Dweud Stori Well – anogaeth i sefyll yn gadarn’. Rydym hefyd yn gyffrous i groesawu Jim Stewart o fudiad Open Doors a fydd yn siarad am eu gwaith gyda’n brodyr a chwiorydd a erlidiwyd a sut y gallwn ni eu cefnogi.

Fel rhan o’r diwrnod byddwn yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gwahoddir yr holl aelodau iddo i ddod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ac i helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod a thu hwnt.

Er mwyn i ni allu rheoli niferoedd, archebwch isod. Mae opsiwn hefyd i gael cinio bwffe oer, a chodir tâl bychan o £5. Os hoffech hwn dewiswch yr opsiwn hwnnw wrth ddewis tocynnau a gwnewch yn siŵr bod eich cerdyn yn barod.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *