Sefydlwyd Y Gymdeithas Efengylaidd ym Mawrth 1967 yn The Hookses, tŷ John Stott yn Dale, Sir Benfro. Datblygodd o grŵp a oedd yn arfer cwrdd yn anffurfiol fel aelodau Cymreig o Gymdeithas Efengylaidd y Cymundeb Anglicanaidd.
Nod Y Gymdeithas Efengylaidd yn yr Eglwys yng Nghymru yw hybu cysylltiadau rhwng Anglicanwyr efengylaidd yng Nghymru. Rydym yn darparu arweinyddiaeth, anogaeth a chefnogaeth ac yn tystiolaethu i’r egwyddorion Beiblaidd yn ein Sail Ffydd, sydd mewn cyffredin gydag aelodau eraill Cymdeithas Efengylaidd y Cymundeb Anglicanaidd. Y mae’n gefnogaeth gref a gwerthfawr i lawer yn yr Eglwys yng Nghymru.